Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Menter a Busnes

Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Tystiolaeth gan Mentrau Iaith Cymru – AYP 24

 

Ymgynghoriad Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

 

Ymateb Mentrau Iaith Cymru

 

    1.        Cyflwyniad

                1.1.        Mae Mentrau Iaith Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.

                1.2.        Mae’r Mentrau Iaith yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i wireddu’r weledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu, gan arwain at gynyddu’r nifer â’r canran o bobl sy’n siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio fel rhan o’u bywydau bob dydd.

                1.3.        Tydi Mentrau Iaith ddim yn rhedeg cynlluniau penodol i greu cyfleoedd gwaith i bobol ifanc ond rydym yn cyflogi pobol ifanc sydd â sgiliau Cymraeg sydd yn gweithio yn y gymuned.

                1.4.        Mae sawl Menter a Mentrau Iaith Cymru wedi defnyddio cynlluniau fel Twf Swyddi Cymru i gyflogi pobol ifanc.

                1.5.        Mae’r Mentrau yn cydweithio gyda phobol ifanc yn aml fel rhan o’r gweithgareddau cymunedol sydd yn cael eu trefnu.

 

 

    2.        Ymateb cyffredinol i’r cylch gorchwyl a materion sy’n cael eu trafod

                2.1.        Gyda strategaeth y Gymraeg Iaith Byw:Iaith Fyw yn datgan ei bod am weld y Gymraeg yn ffynnu, credwn fod angen i bob un o benderfyniadau Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn gwneud lles i’r Gymraeg.

 

                2.2.        Yn benodol mae rhaid sicrhau bod penderfyniadau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc ar draws bob sector yn cyd-fynd â’r nod yn Strategaeth y Gymraeg.

 

                2.3.        Credwn fod angen edrych ar yr her o gael pobol ifanc i gael gwaith yn holistaidd drwy edrych ar y sefyllfa economaidd yn genedlaethol a sicrhau bod holl gynlluniau, prosiectau, strategaethau, biliau a gweithredoedd o fudd y Gymraeg yn y tymor hir.

 

                2.4.        Rydan ni yn credu bod sgil fel y Gymraeg yn rhoi mantais i unigolion ddod o hyd i waith, ac mae angen sicrhau bod swyddi yng Nghymru yn cael eu llenwi gan unigion gyda’r sgiliau ieithyddol sydd ei angen i ni fod yn wlad ddwyieithog.

 

                2.5.        Mae diffyg gweld y Gymraeg fel sgil ar gyfer y gweithle yn rhoi pobol dan anfantais. Mae angen gweithredu i sicrhau bod gwasanaethau gyrfaoedd, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yn ymwybodol o ba mor ddefnyddiol, a faint o ofyn sydd am y sgil yma.

 

                2.6.        Bellach mae sawl darn o waith ymchwil yn datgan yn glir y manteision o fedru defnyddio mwy nag un iaith - mae’n bryd i ni sicrhau bod y wybodaeth yma yn cael ei rannu gyda phobol ifanc ddigon cynnar yn eu bywydau fel eu bod nhw yn medru dewis i ddysgu’r iaith er mwyn gwella eu cyfleoedd o gael gwaith yn y dyfodol.

 

                2.7.        Mae angen ymwneud mwy â chyflogwyr o bob sector i sicrhau bod y sgiliau sydd gan bobol ifanc yn bwrpasol ar gyfer y gweithle. Yn aml mae cyflogwyr eisiau cyflogi pobol gyda sgiliau Cymraeg ond yn methu dod o hyd i bobol gyda’r sgiliau angenrheidiol. Mae’r galw yn bodoli am sgiliau Cymraeg ond dim digon o sgiliau gan y gweithlu i wneud y gwaith.

 

    3.        I ba raddau mae cyflogwyr yn gofyn am sgiliau Cymraeg, ac a yw pobl ifanc yn gweld hyn yn rhwystr?

                3.1.        Yn gyntaf, rydym yn cwestiynu pam ofynnir y cwestiwn hwn sydd yn ei hanfod yn gweld y Gymraeg mewn golau negyddol. Tydi’r cwestiwn ddim yn gwestiwn niwtral, mae’n arwain ymatebion i gytuno gyda’r datganiad negyddol. Mae ‘response bias’ yn cael ei dderbyn yn rhyngwladol fel rhywbeth mae rhaid diogelu yn ei erbyn wrth holi pobol am eu barn. Wrth gasglu barn mae angen holi cwestiynau sydd ddim yn arwain a llywio'r ymatebwyr tuag at un cyfeiriad neu’r llall.

 

                3.2.        Mae’r modd y mae’r cwestiwn hwn wedi ei eirio yn fater difrifol, a rhaid gofyn a fyddai’n dderbyniol neu gael ei hystyried yn normal i ofyn yr un cwestiwn ynglŷn â sgiliau mathemateg, llythrennedd, neu unrhyw sgiliau eraill.  Yn ei hanfod y mae’n tanseilio gwerth dwyieithrwydd fel sgil sydd yr un mor ddilys â sgiliau eraill. 

 

                3.3.        Pam bod y Gymraeg fel sgil yn cael ei drin yn israddol a pham bod y cwestiwn yn cael ei ofyn yn y ffordd negyddol yma?

 

                3.4.        Credwn fod angen newid y ddelwedd o’r Gymraeg fel ‘rhwystr’ a'i chydnabod fel un arall o’r sgiliau hanfodol sydd ei angen i sicrhau gwaith yng Nghymru, yn un o’r pynciau craidd mae rhaid gadael cymhwyster da yn y pwnc os am sicrhau gwaith yn y dyfodol.

 

                3.5.        Rydan ni yn gosod her i Bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cymru i newid y cwestiwn yma i fod yn gwestiwn niwtral ar gyfer pwrpas yr ymgynghoriad yma. Fydd ymatebion i’r ymgynghoriadau yn werth dim byd os nad yw'r cwestiynau yn cael eu gofyn mewn ffordd niwtral.

 

                3.6.        Sgil sydd yn agor drysau i fwy o gyfleoedd gwaith yw sgiliau yn y Gymraeg nid rhwystr.

 

                3.7.        Yn ein barn ni fuasai mwy o gyflogwyr yn gofyn am sgiliau Cymraeg wrth gyflogi pobol os buasen nhw yn gweld y buddion o gael rhywun hefo sgiliau ychwanegol yn y gweithle.

 

                3.8.        Mae sawl adroddiad diweddar yn ymwneud a’r Gymraeg ac yr Economi (gweler yr atodiad am ddyfyniadau penodol) a'r consensws cyffredinol yw bod y Gymraeg yn medru bod yn ffactor sydd yn dylanwadu yn bositif ar economi Cymru, a bod posib i ddatblygu cyfleoedd gwaith a chefnogi'r Gymraeg law yn llaw.

 

                3.9.        Mae Mesur y Gymraeg yn datgan bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru a bydd safonau'r Gymraeg yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i hybu defnydd o’r Gymraeg.

 

              3.10.        Oherwydd hyn bydd galw cynyddol am wasanaethau Cymraeg, fydd yn ei dro yn cynyddu’r galw am bobol gyda sgiliau yn y Gymraeg er mwyn medru gweithredu yn ddwyieithog.

 

 

    4.        Pa mor effeithiol yw’r amrywiaeth o gynlluniau, mentrau a phrosiectau sy’n anelu at gefnogi pobl ifanc i gael gwaith, er enghraifft Twf Swyddi Cymru, prentisiaethau, hyfforddiaethau, prosiectau eraill a gefnogir gan gyllid Ewropeaidd a phrosiectau a reolir gan y trydydd sector? A ydynt yn sicrhau gwerth am arian?

                4.1.        Gwasanaethau Cymraeg: O’n profiad ni gyda chynllun Twf Swyddi Cymru, mae safon y gwasanaeth gan y darparwyr yn amrywio, gan gynnwys rhai profiadau negyddol am beidio medru gweithredu drwy’r Gymraeg.

 

                4.2.        Mae sawl achos o ddarparwyr Twf Swyddi Cymru yn methu â darparu ffurflenni Cymraeg ac anawsterau hysbysebu swyddi yn y Gymraeg.  Ymddengys mewn rhai achosion bod diffyg ymwybyddiaeth o argaeledd ffurflenni Cymraeg, prosesau gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth Cymraeg wrth wraidd yr anawsterau a brofwyd. 

 

                4.3.        Os nad yw’r profiad o ddefnyddio’r cynllun yn un gadarnhaol o safbwynt y cyflogwr, sut brofiad mae’r cwsmeriaid mwyaf pwysig, sef y bobl ifanc yn ei gael?  Nid ydym yn ffyddiog bod gwasanaethau’r cynlluniau yma yn mynd i wella yn y dyfodol trwy brif-ffrydio’r Gymraeg yn unig a chredwn fod angen cynlluniau sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, a gyda’r Gymraeg yn rhan greiddiol ohonynt

 

    5.        Cynlluniau amgen cael pobol i’r gwaith

                5.1.        Mae cynlluniau eraill yn bosib er mwyn cefnogi cael pobol ifanc i’r gwaith, ac rydym yn credu ei bod yn bwysig i fod yn agored i syniadau newydd, a bwrw ymlaen gyda chynlluniau arloesol sydd yn mynd i wneud gwahaniaeth.

                5.2.        Mae un prosiect sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac sydd wedi derbyn cefnogaeth o sawl cyfeiriad, sef Cynllun Marchnad Lafur Y Gymraeg.

                5.3.        Mae’r cynllun yn strategaeth sosio-economaidd i osod seiliau cadarnach i’r Gymraeg drwy:

     Ddefnyddio’r Gymraeg fel sbardun Economaidd

     Leihau allfudo

     Adnabod y galw am wasanaethau Cymraeg

     Ehangu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg

     Cyplysu’r angen gyda chyfleoedd gwaith a hyfforddiant

     Adnabod cyfleoedd economaidd

 

                5.4.        Mae’r cynllun wedi cael ei gydnabod mewn adroddiadau ac yn cael ei gyflwyno fel enghraifft dda o sut mae asio buddion economaidd a'r Gymraeg. Mae’r cynllun yn ateb sawl her, ac yn cyd-fynd a chanfyddiad neu yn ffitio gyda’r dogfennau isod:

     Anghenion o ran Sgiliau  mewn Wyth Sector (Ebrill 2014)

     Regional Delivery Plan for Employment and Skills for South West and Central Wales (2014)

     Iaith Fyw:Iaith Byw (2012)

     Adroddiad y Grŵp Gorchwyl  a Gorffen ar yr Iaith Gymraeg  a Datblygu  Economaidd (Ionawr 2014)

     Adolygiad o Waith y Mentrau  iaith, y Cynlluniau Gweithredu iaith a Chynllun hybu’r Gymraeg  Aman Tawe (Ionawr 2014)

     Adroddiad :Cynyddu nifer y cymunedau lle defnyddir y Gymraeg fel prif iaith (Rhagfyr 2013)

     Adroddiad :Un iaith i bawb (Mai 2014)

     Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd ar gyfer Cyllid Ewropeaidd Cymru

                5.5.        Credwn ei bod yn bryd i ni weld y Gymraeg fel cyfle am sbardun economaidd fydd o fudd i bawb - does dim byd negyddol o gwbl am y syniad.

                5.6.        Mae’r cynllun yn ffitio gyda grantiau Ewropeaidd allweddol, sydd yn golygu, gyda chefnogaeth gan Llywodraeth Cymru, byddai posib i ni ddenu arian sylweddol o Ewrop i wireddu'r cynllun yma, a thrawsnewid y byd gwaith yng Nghymru.

                5.7.        Rydan yn barod iawn i rannu manylion pellach o Cynllun Marchnad Lafur Y Gymraeg.

 

Manylion Cyswllt

Mentrau Iaith Cymru

Y Sgwâr, Llanrwst

LL26 0LG

post@mentrauiaith.org